y ngwneud i'n wallgo’ yw'r bobl sy'n gwneud arbrofion gyda gwahanol fwydydd, yn meddwl beth maen nhw'n gwneud yn mynd i droi allan yn ffantastig, a dydy e ddim. Ac, i fod yn ddidwyll, yn ffiaidd.Dwi'n mwynhau'r rhaglenni teledu sydd ymlaen weithiau megis 'Saturday Kitchen', os oes gen i amser i'w wylio, gan fod gennyf lawer o waith cartref!! (Heb enwi neb......Mr Williams!) Ta beth, nôl i fwyd. Rwy'n hoffi casglu tipiau gan yr arbenigwyr sydd ar y rhaglenni yma a defnyddio rhai o'i ryseitiau hefyd.
Yn ddiweddar rwyf wedi datblygu awydd am goginio fy hun. Ers pan oeddwn i'n tua 6 mlwydd oed, roeddwn i'n coginio gyda fy mam-gu. Fel arfer, roeddem ni'n coginio cacennau o bob math fel sbwng Fictoria, cacennau'r frenhines ('Queen Cakes'), 'Fairy Cakes' a muffins. Un flwyddyn ar gyfer Comic Relief, coginio'n ni gacennau 'fairy cakes' a'u
haddurno nhw gyda'r wyneb sydd ar y trwynau coch, a'u gwerthu i'r stryd; £1 yr un. Codo'n ni ddim cannoedd o bunnoedd, ond rwy'n credu casglo'n ni tua £25, sydd ddim yn rhy wael. Roedd y stryd yn garedig iawn, chwarae teg.Cwpl o wythnosau yn ôl, roedd yn rhaid i mi wneud fy newisiadau. O my gosh. 'Na waith caled! Pob athro yn dweud - "Cymera fy mhwnc i! Byddi di'n hedfan trwyddi!" Ie. "Hedfan trwyddi". Beth am y gwaith cwrs, y gwaith cartref?! Na, dydy hwnna ddim yn cael golwg arni. Roedd Mrs. Parsons yn trio fy mherswadio i gymryd Arlwyo. Dim 'Coginio' na 'Bwyd a maeth'! Arlwyo. "Mae'n dy ddysgu di'r sgiliau sylfaenol am baratoi a choginio gwahanol fwydydd, dy ddysgu di 'portion control' a sut i weithio allan faint mae bob plât o fwyd rwy'n coginio yn costio
a.y.y.b. Roeddwn i'n hanner meddwl ei gymryd. Rhywbeth gwahanol i wneud. Ond. Roedd yna 'catch'. Roedden ni'n mynd i fod yn coginio bron bob wythnos. Pan ofynnais i i fam, y peth cyntaf dywedodd hi oedd "BOB WYTHNOS?! NO WAY!". Felly, groesais i hwnna bant o'r rhestr. Ond, roedd mam-gu wedi addo i mi y byddwn ni'n coginio un plât gwahanol o fwyd (iawn!) bob wythnos, yn dechrau pan wyf ym Mlwyddyn 10.Felly, mae fy serch a'm masiwn am fwyd BYTH yn mynd i farw!